Y tu allan

Trefnant Bach
Dianc, ymlacio ac ail-gysylltu â byd natur .....
Trefnant Bach yw enw ein cartref, lle rydym yn eich croesawu i ddianc, ymlacio mewn moethusrwydd ac ail-gysylltu  â byd natur.

Rydym yn rheoli'r tirwedd cyfoethog o ddolydd traddodiadol, gwrychoedd, coetiroedd a llyn, fel eu bod yn byrlymu â bywyd gwyllt. Hoffwn eich gwahodd i ymlacio yn ein dihangfa ddiarffordd, i gael egwyl haeddiannol o brysurdeb bywyd bob dydd.



Caiff y clytwaith o ddolydd hynafol, sydd  wedi'u hamgáu gan hen waliau cerrig a gwrychoedd aeddfed a choed ynn, eu pori gan ddefaid Llŷn traddodiadol.



Caiff y llyn ei fwydo gan ffynhonnau ac mae'n darparu cynefin dwr croyw cyfoethog, sydd wedi'i amgylchynnu gan goetir.

Ar noson  glir, heb lygredd golau, mae Trefnant Bach gystal  â nifer o barciau awyr dywyll dynodedig. Yn aml, gwelir y llwybr llaethog a'r ffenomenau gofodol eraill yn eglur.







Wrth i chi gerdded ar hyd llwybrau glan y llyn a'r  coetir, efallai y byddwch yn ddigon ffodus i ddod ar draws adar ysglyfaethus, gwyddau mudol, gwiwerod coch, wenci, draenogod ac efallai dyfrgwn.


Gwenyn  Môn yn Nhrefnant Bach

Mae gennym gychod gwenyn yn Nhrefnant Bach ac rydym yn darparu cyrsiau hyfforddi “cwrdd â'r gwenynwyr” a hyfforddiant cadw gwenyn.
Gwenyn Môn

Share by: