Tariffau

Tariffau gwely a brecwast

Y tariff ar gyfer y llety Apollo yw £99.00, a £79.00 ar gyfer ystafell Mercury. Mae prisiau ar gyfer dau berson y noson ac maent yn cynnwys brecwast wedi ei goginio neu frecwast oer, te prynhawn a chacen cartref ar eich diwrnod cyntaf. Os hoffech ddiodydd poeth yn  ystod eich arhosiad, mae yna detholiad ar gael.

Gofynnwn i chi archebu lleiafswm o ddwy noson yn yr Ystafell Mercury drwy'r flwyddyn ac yn y Llety Apollo dros benwythnosau gwyl y banc, penwythnosau arbennig e.e. Santes Dwynwen ac yn ystod y cyfnodau prysuraf. 


Mae'n bosib archebu llety efo ni yn uniongyrchol, drwy gysylltu efo ni i wirio argaeledd, ac yna sicrhau eich archeb drwy anfon taliad (ni ellir ei ad-dalu) drwy fancio ar-lein. Bydd eich archeb wedi ei sicrhau unwaith y bydd eich taliad wedi clirio, ac mae ebost i gadarnhau'r archeb  wedi ei anfon atoch.

Cyn archebu llety, nodwch ni allwn gynnig llety i westeion efo cwn neu blant llai na 14 mlwydd oed. Hefyd, nid ydym yn croesawu ysmygwyr. Ni chaniateir ysmygu yn yr adeilad na thu allan, ar neu ar gyrion ein heiddo. Darllenwch ein Telerau ac Amodau, os gwelwch yn dda. 


Anfonwch e-bost neu ffoniwch ni, os hoffech unrhyw wybodaeth arall.

Nodwch, os gwelwch yn dda, ar gyfer llety ar ôl y  1af o Ebrill 2020, bydd y tariff am y Llety Apollo yn £109, a £89 am yr Ystafell Mercury.
Share by: