Ystafell Mercury

Ystafell Mercury

Mae eich ystafell wely gyfforddus mewn lleoliad cyfleus ar y llawr isaf, ac mae wedi ei dodrefnu â gwely dwbl gyda chynfasau cotwm Eifftaidd moethus a digon o le storio ar gyfer eich eiddo. Mae ganddo deledu freeview a dal-i-fyny a WiFi am ddim.









Mae gan eich ystafell gawod gyfagos sedd ffenestr wreiddiol ac mae'n cynnwys tywelion a thaclau ymolchi moethus.

Mae ein ystafell fwyta ychydig o gammau i ffwrdd, ac mae gan ein ystafell haul olygfeydd godidog o'r ardd ac mae'n ddelfrydol ar gyfer ymlacio ac eistedd allan ar nosweithiau hir o haf. Mae yna goridor (efo drws sy'n cloi) yn cysylltu'r llety Apollo i'r ystafell Mercury. Gall hyn fod yn ddelfrydol pan fydd yr un parti yn archebu'r ddwy ystafell. I sicrhau eich diogelwch mae gan eich llety larwm fwg integredig gerllaw a thortsh er argyfwng.
Share by: