Hafan

Croeso i'r Encil yn Nhrefnant Bach, Ynys Môn
Yn Yr Encil yn Nhrefnant Bach, rydym yn ymfalchïo yn ein croeso Cymreig moethus, cynnes, lle mae yna banad  a chacen gartref yn aros amdanoch! Mae yn groeso i bawb, gan  gynwys llysieuwyr a rhai sy'n fegan neu sydd a chyfyngiadau deietegol e.e. wyau, gluten neu lefrith.
 
Nid llety  gwely a brecwast cyffredin mohono o bell ffordd. Mae'n ddihangfa unigryw, sy'n ysbrydoliaeth i artistiaid a'r rhai sy'n gwerthfawrogi byd natur. Yma, rydym yn eich annog i ymlacio, a chysylltu â natur yn ein dolydd, coetir a ger y llyn.


Mae'r enw Trefnant Bach, yn  tarddu o'r canoloesoedd. Mae gweddillion y gorffennol fel y waliau cerrig trwchus a'r seddi ffenestr dal yma, ac yn gliwiau o hanes yr adeilad.


Mae gan eich gwesteion, Dawn a Dafydd, gyfoeth o wybodaeth leol ac rydym yn edrych ymlaen at sicrhau bod eich arhosiad yn un i'w gofio.


Y tu allan, rydym yn rheoli'r tyddyn  7½ erw yn sensitif i ddarparu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Rydym yn eich annog i ddod â'ch esgidiau cerdded gyda chi, i grwydro ein dolydd, a'n llwybrau drwy'r coetir a heibio'r llyn ac ail-gysylltu  â byd natur yn yr hafan hon i fywyd gwyllt.

Roedd Trefnant Bach yn gartref i Tecwyn Roberts yn ei blentyndod. Daeth yn Swyddog Dynameg Hedfan cyntaf NASA, ac roedd yn allweddol i lwyddiant glanio dyn ar y lleuad. I gydnabod ei gysylltiad â Threfnant Bach,rydym wedi codi plac ac wedi enwi ein hystafelloedd yn Llety Apollo ac Ystafell Mercury.
Stori Tecwyn Roberts
Share by: