Tecwyn Roberts

Stori Tecwyn Roberts

Nid yw enw Tecwyn Roberts yn gyfarwydd iawn yng Nghymru, Er hyn, yn ddiweddar datgelwyd plac yn y cartref ble cafodd ei fagu at Ynys Môn i goffau ei gysylltiad ag Ynys Môn a’i ran yn llwyddiant glanio dyn ar y lleuad hanner can mlynedd yn ôl.  Magwyd Tecwyn, a annwyd yn 1925 mewn bwthyn disylw a elwir yn Trefnant Bach, ar gyrion pentref Llanddaniel Fab yng nghanol Ynys Môn wledig. Daeth yn Swyddog Dynameg Hedfan cyntaf NASA gyda phroject Mercury ac yna cafodd ddyrchafiad yn Gyfarwyddwr Rhwydweithiau yng Nghanolfan hefan gofodol Goddard. 
Cyfarfu ag Arlywydd Kennedy ac Arlywydd Nixon ac anrhydeddwyd ef â gwobr gwasanaeth eithriadol NASA, Medal gwasanaeth eithriadol NASA a Gwobr Teilyngdod Canolfan Gofod Goddard. 

Yn hogyn ifanc mynychodd Tecwyn Ysgol Gynradd Parc y Bont a leolir rhyw filltir o’i gartref yn Nhrefnant Bach. Roedd yn llwyddiannus yn yr Arholiad Ysgoloriaeth yn 1938 a pharhaodd â’i addysg yn Ysgol Ramadeg Biwmares. 
Ar ôl gadael yr ysgol ramadeg, dechreuodd Tecwyn brentisiaeth efo cwmni Saunders Roe ym Mhwynt Ffriars, Biwmares ble addaswyd cychod hedfan Catalina. Roedd y Fenai yn leoliad gwych ar gyfer y gwaith a chafodd y cychod hedfan eu tynnu allan ar y llithrfa sy'n parhau ar y blaendraeth heddiw ynghyd â'r rhan fwyaf o hangarau o amser y rhyfel. Yn 1944, gadawodd Tecwyn yr awyrlu a pharhaodd i weithio i Saunders Roe yn Southampton ac yna ar Ynys Wyth yn 1946 ble y cyfarfu ei wraig Doris. Astudiodd ym Mhrifysgol Southampton ac enillodd ei Dystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Awyrennol ym 1948 ac enillodd Wobr Arbennig y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol am ei gyflawniad.
Ym mis Rhagfyr 1952 hwyliodd Tecwyn a'i wraig Doris, am Toronto, lle bu'n ymwneud â dylunio'r jet cyflym yr Avro Arrow. Yn 1959 diddymwyd y prosiect Arrow gan lywodraeth Canada gan arwin at ddiswyddiadau enfawr. Cafodd tri deg dau o'r peirianwyr Avro gorau, yn eu plith Tecwyn Roberts, eu recriwtio gan y Grŵp Gofod Americanaidd newydd, a leolwyd yng Nghanolfan Ymchwil Langley yn Hampton, Virginia. Eu tasg nhw oedd rhoi hwb i raglen o gaeldyn yn hedfan i'r gofod.
Daeth Tecwyn yn Swyddog Dynameg Hedfan cyntaf NASA yng Nghanolfan reoli Mercury yn Cape Kennedy. Chwaraeodd ran allweddol yn adnabod y gofynion ar gyfer y rhwydwaith tracio a chyfathrebu ac wrth reoli taflwybr y llongau gofod. Roedd ganddo hefyd gyfraniad allweddol i ddylunio’r Ganolfan Reoli yn Houston, Texas. Yn ddiau roedd gan Tecwyn gysylltiad agos â llwyddiant Prosiect Mercury yn y chwedegau cynnar wrth iddynt gylchdroi llongofod efo chriw mewn orbit o gwmpas y Ddaear, ymchwilio i allu dyn i oroesi a gweithio yn y gofod a sicrhau bod y llong ofod a’r criw yn dychwelyd yn ddiogel.

Yn 1962 apwyntiwyd Tecwyn yn Bennaeth yr Adran Hedfan â Chriw (Manned Flight Division) yng Nghanolfan Hedfan Gofod Goddard, Maryland, ble gannwyd ei fab Michael. Yn ddiweddarach penodwyd yn Bennaeth Peirianneg Hefan â Chriw (Manned Flight Engineering Division) gan roi iddo’r cyfrifoldeb am Rwydwaith Tracio NASA, sef cyfres o orsafoedd tracio a adeiladwyd i gefnogi prosiectau Mercury, Gemini, Apollo a Skylab. 

 Am y cyflawniad hwn cafodd ei anrhydeddu yn 1964 gyda Gwobr Gwasanaeth Eithriadol NASA am ei gyfraniad i'r rhaglen hedfan gofod gyda chriw ym maes gweithrediadau hedfan.
Yn ystod y rhaglen Apollo yn 1965 daeth Tecwyn yn Bennaeth yr Adran Gefnogi Hedfan a Chriw (Manned Flight Support Division) yng Nghanolfan Goddard ac yna yn 1967 yn Bennaeth Peirianneg Rhwydwaith (Network Engineering Division) yn ystod y glaniad cyntaf ar y lleuad. Cysylltiad uniongyrchol olaf Tecwyn efo teithiau gofod â chriw, NASA oedd fel Cyfarwyddwr rhwydwaith (Director of Networks) yn Goddard a’i ran yn sicrhau bod cysylltiad yn cael ei gadw rhwng llongau gofod yr Unol Daleithiau a’r Undeb Sofietaidd wrth iddynt gylchdroi yn y prosiect Apollo-Soyuz. 

1969, derbyniodd Fedal Gwasanaeth Eithriadol NASA am ei waith i gefnogi taith Apollo 8. Yn 1975 etholwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas Seryddol America.
 1979, ymddeolodd Tecwyn Roberts o NASA ac yn 1984, cafodd ei anrhydeddu â Gwobr Teilyngdod Robert H. Goddard, y gydnabyddiaeth uchaf y gall Canolfan Gofod Goddard ei rhoi i'w gweithwyr. Bedair blynedd yn ddiweddarach, bu farw Tecwyn Roberts ar 27 Rhagfyr 1988, yn 63 oed. Fe'i claddwyd ym Mynwent Esgobol St Stephens, Crownsville, Maryland.
Share by: