Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau

Diolch i chi am ddewis aros yn Yr Encil yn Nhrefnant Bach. Drwy dalu ac archebu llety gyda ni, rydych chi'n cytuno ar gytundeb cyfreithiol sy'n amodol ar y telerau ac amodau canlynol: -

PRISIAU
Mae ein prisiau, a nodir ar ein gwefan, fesul ystafell wely (hyd at ddau berson) ac maent yn cynnwys brecwast Cymreig llawn neu gyfandirol. Rhaid gwneud taliad llawn wrth archebu llety.


AMSEROEDD CYRRAEDD AC YMADAEL
Cyrraedd: Mae amser cyrraedd ar eich diwrnod cyntaf rhwng 4pm a 9pm, oni bai ein bod wedi cytuno i newid hyn drwy drefniant o flaen llaw.
Ymadael: Oni bai ein bod wedi cytuno o flaen llaw, gofynnwn yn garedig i chi adael erbyn 10.00 am ar eich bore ymadael, i ganiatáu amser i ni ei baratoi ar gyfer ein gwesteion nesaf.

PLANT
Oherwydd y llyn a'n da byw, caniateir plant 14 oed  a throsodd yn unig a bydd angen i chi archebu ein hail ystafell wely ar eu cyfer. Trwy gytundeb o flaen llaw gallwn hefyd ddarparu ar gyfer babanod. Sylwer, nid ydym yn darparu cadeiriau uchel, cotiau nac unrhyw offer plant arall a bydd angen i chi ddod â'ch crud a'ch dillad gwely eich hun.

DEFNYDDWYR CADAIR  OLWYN
Yn anffodus maeTrefnant Bach yn hen adeilad gyda drysau  cul a lloriau anwastad ac felly'n anaddas i ddefnyddwyr cadair olwyn. Gweler ein tudalen Hygyrchedd am ragor o wybodaeth.

CŴN AC ANIFEILIAID ANWES
Yn anffodus, ni chaniateir cŵn nac anifeiliaid anwes yn Nhrefnant Bach oherwydd ein da byw a'r bywyd gwyllt sy'n byw yma. Fodd bynnag, trwy drefniant blaenorol, efallai  yr hoffech gadw'ch ci efo Green Wellies Gareth yn Llanddaniel.

YSMYGU, VAPING ac E-SIGARETS
Mae gennym bolisi dim ysmygu drwy'r  adeilad a thu allan yr eiddo. Mae'r polisi hwn yn cynnwys vaping a'r  defnydd o e-sigaréts.

 ARCHEBU lLETY
Fel arfer, rhaid archebu isafswm o un noson neu dair noson ar benwythnosau Gwyliau Banc, y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Gwiriwch gyda ni, oherwydd weithiau mae gennym fylchau a allai eich siwtio.
Rhaid talu yn llawn am eich arhosiad  wrth archebu i sicrhau eich ystafell. Mae'r holl brisiau a roddir ar y wefan hon fesul ystafell (deiliadaeth ddwbl) ac yn cynnwys  brecwast Cymraeg llawn neu gyfandirol. Rhaid talu am archebion drwy  drosglwyddiad bacs gan fancio ar-lein.

Gofynion Arbennig: Os oes gennych chi neu unrhyw aelod o'ch criw unrhyw ofynion arbennig e.e. dietegol, rhowch wybod i ni ar adeg gwneud yr archeb. Mae copi o'n datganiad mynediad ar gael ar ein gwefan.

CANSLO 
Rhaid talu yn llawn wrth archebu. Os oes angen i chi ganslo'ch archeb, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn geisio ailosod yr ystafell. Rydym yn cadw'r hawl i gadw'r swm llawn sy'n ddyledus os caiff ei ganslo'n hwyr o fewn 7 diwrnod (cyn hanner dydd) o'r diwrnod y byddwch yn cyrraedd lle na allwn ailosod yr ystafell (oedd).

CWTOGI
Os oes rhaid i chi gwtogi ar eich arhosiad cyn, neu yn ystod eich arhosiad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu ail-osod yr ystafell am y dyddiau na allwch chi aros ynddynt. Os na allwn ailosod yr ystafell, yna byddwch yn dal yn atebol am y gost llawn. Os gallwn ailosod yr ystafell ar gyfer rhan o'ch archeb sy'n weddill, yna byddwch yn atebol am unrhyw ddiwrnodau na fydd yr ystafell yn cael ei hailosod.

DIM TROI FYNY
Os na fyddwch yn cyrraedd heb roi gwybod i ni, byddwn yn cadw eith taliad llawn

ARCHEBU AR GYFER TRYDYDD PARTI
Os yw'r person sy'n talu am yr archeb yn wahanol i'r person sy'n dod i aros, bydd y person sy'n talu am yr archeb yn gyfrifol am ganslo, ac am y gost o gwtogi neu beidio â chyrraedd yn ogystal â difrod neu golled

GOHIRIO
Os oes angen i chi ohirio neu newid dyddiadau eich archeb, rhowch ddigon o rybudd i ni fel y gallwn geisio ailosod eich ystafell. Byddwn yn hapus i drosglwyddo'ch tal  i archeb newydd os y llwyddwn i ail osod eich ystafell.

NI YN CANSLO EICH ARCHEB
Ni fyddwn yn canslo'ch archeb oni bai  am resymau y tu hwnt i'n rheolaeth. Mewn digwyddiad o'r fath byddem yn ad-dalu'r holl arian a dalwyd gennych ar gyfer yr archeb. Ni fyddai ein hatebolrwydd yn ymestyn y tu hwnt i'r ad-daliad hwn.

YN YSTOD EICH ARHOSIAD

Sŵn: Ein nod yw cynnig arhosiad hamddenol a thawel i'n holl westeion a gofynnwn yn garedig i westeion barchu mwynhad  gwesteion eraill mewn tawelwch.

Ymwelwyr ag ystafelloedd: Ni chaniateir i westeion gael ymwelwyr i'w hystafelloedd heb ein cytundeb ymlaen llaw.

Mae damweiniau'n digwydd: Rhowch wybod i ni ar unwaith am unrhyw ddifrod neu arllwysiad er mwyn i ni allu trwsio neu lanhau'n gyflym. Mae'n haws unioni colledion cyn gynted ag y byddant yn cael eu trin. Gall unrhyw ddifrod sylweddol arwain at godi tâl am adnewyddu, atgyweirio neu lanhau arbenigol. Os yw'r difrod yn golygu na all yr ystafell fod ar gael mewn da bryd ar gyfer y gwesteion nesaf sy'n cyrraedd, efallai y byddwch hefyd yn atebol am ein colled incwm.

Eitemau coll: Codir tâl am unrhyw eitem a gymerir o'r ystafelloedd heb ein caniatâd. Codir tâl o £ 50 am allweddi coll, neu allweddi na ddychwelwyd.

Atebolrwydd: Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod, colled neu anaf i unrhyw aelod o'ch criw neu unrhyw gerbydau neu eiddo, oni bai ein bod wedi ei hachosi gan weithred esgeulus gennym ni ein hunain.

Diolch am eich cydweithrediad. Edrychwn ymlaen at eich croesawu a gobeithiwn y byddwch yn cael aros yn hamddenol a phleserus gyda ni.
Share by: