Hygyrchedd

 Yr Encil yn Nhrefnant Bach - hygyrchedd
Manylion cyswllt:
Cyfeiriad: Trefanant Bach, Llanddaniel, Ynys Môn, Cymru, DU. LL60 6ET
Rhif ffôn: 44 (0) 1248 422295
Rhif symudol: 44 (0) 7930 134924 (Dawn)
Rhif symudol: 44 (0) 7816 188573 (Dafydd)
Rhif cyswllt brys 24 awr: fel uchod
Cyfeiriad e-bost: ask@the-sweet-escape.co.uk
Gwefan: www.the-sweet-escape.co.uk
Cyfeirnod GPS: lledred 53.216160    hydred -4.253507
Google maps plus code 6P8W+FP Gaerwen
Cyswllt: Dawn Doran-Jones a Dafydd Jones, Perchnogion a Rheolwyr
Argaeledd: Rydym ar agor drwy'r flwyddyn ond fe fyddwn yn cymryd gwyliau a diwrnodau i ffwrdd yn achlysurol.

Addasrwydd
Mae Trefnant Bach, lleoliad Yr Encil,  yn dyddyn bach sy'n tarddu o'r oesoedd canol. Rydym wedi ei adnewyddu a'i foderneiddio fel ei fod yn addas fel cartref a llety Gwely a Brecwast. Mae rhai nodweddion o hen fwthyn carreg yn parhau. Gallant wneud mynediad yn anodd i bobl â symudedd cyfyngedig. Gofynnwch a oes gennych unrhyw anghenion penodol a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu.
Oherwydd nodweddion yr adeilad a nodweddion y tirwedd tu allan, gan gynnwys, y llyn, y caeau a'r coetir,  a phresenoldeb da byw, mae'n ddrwg gennym, ond nid yw ein cyrchfan yn addas ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc o dan 14 oed neu ddefnyddwyr cadair olwyn. Yn anffodus hefyd, ni allwn ddarparu ar gyfer cwn ac anifeiliaid anwes.

Cysylltiadau trafnidiaeth
Rydym wedi ein lleoli tua 0.4 milltir  o bentref Llanddaniel Fab, i lawr lôn drol breifat a rennir efo'n cymdogion. Mae'r trac heb wyneb, ac yn gul. Mae'n hawdd teithio ar ei hyd mewn car cyffredin, ond fe'ch cynghorir i gadw'ch cyflymder yn is na 15mya. Mae'r lôn yn lled un car yn unig. Byddwch yn amyneddgar a byddwch yn barod i aros yn y man pasio agosaf. Er ei fod yn ymddangos yn ddiarffordd, mae gennym gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwych. O'r arhosfan fysiau Yn Llanddaniel ar ddiwedd ein lôn, mae bysiau rheolaidd i'r gogledd i Langefni ac ymlaen i borthladd Caergybi gyda fferïau rheolaidd i Ddulyn, Iwerddon. Mae yna hefyd wasanaeth awyr o Faes Awyr Môn yn y Fali i Gaerdydd. Mae'r bysiau sy'n rhedeg tua'r de o Landdaniel, yn galw yn Llanfair Pwll (arhosfan  trennau) a Phorthaethwy, cyn cyrraedd Bangor (heibio Ysbyty Gwynedd). Ym Mangor mae yna gysylltiadau â gwasanaethau bysiau eraill a mynediad i orsaf drenau prif-lein Bangor, gyda threnau uniongyrchol i Lundain. Rydym felly mewn lleoliad addas ar gyfer y rhai sy'n dymuno cyrraedd neu grwydro'r ardal yn annibynnol.


Cyfleusterau lleol
Mae'r siopau agosaf yn Llanfair Pwll, gan gynnwys Coop gyda oriau agor estynedig a fferyllydd Rowlands. 
Yr orsaf danwydd agosaf yw Stermat yn Gaerwen.
Mae yna nifer o lefydd bwyta ac yfed da ym Mhorthaethwy, Biwmares a thu hwnt. Gallwn eich cynghori a'ch helpu i ddewis.
Mae'r ysbyty agosaf ym Mangor ac  mae yna feddyg teulu a deintydd yn Llanfair Pwll.

Ysmygwyr
Mae ganddom bolisi dim ysmygu llym. Mae hyn yn cynnwys vaping ac e-sigarets ac mae'n weithredol yn yr adeilad a thu allan, felly nid yw ein llety yn addas ar gyfer ysmygwyr.

Parcio a chyrraedd
Mae amser cyrraedd rhwng 4pm a 9pm. Byddem yn ddiolchgar pe byddech yn rhoi amcan i ni o'ch amser cyrraedd neu os y byddwch yn cyrraedd yn hwyr. Mae yna ddigonedd o le i barcio cyn cyrraedd y ty. Ceir mynediad drwy giat fawr bren, gyda enw'r eiddo, Trefnant Bach, ar bostyn y giat ar y chwith. Ceir mynediad i'r ty ar hyd llwybr concrid, sydd wedi ei oleuo yn ystod y nos. Ar ôl cyrraedd, gwnewch eich ffordd tuag at y conserfatori ar ochr dde'r ty. Cewch  banad a chacen ar ôl cyrraedd.

Drysau, grisiau, allweddi a diogelwch
Gall prif ddrws allanol yr adeilad  a drws allanol y Llety Apollo, fod yn isel ar gyfer unigolion tal. Mae yna ris ger y prif ddrws allanol a gris oddi ar y dec preifat, y tu allan i'r Llety Apollo. Mae yna ris bychan i'r gawod yn y Llety Apollo a'r Ystafell Mercury. Cewch allwedd i'ch ystafell neu lety ar ôl cyrraedd. Efallai y byddwn yn cloi'r drws mewnol, yn dibynnu ar y defnydd a wneir o'r stafelloedd. Mae yna oleuadau diogelwch o gwmpas yr adeilad, a weithredir gan synwyryddion. Yn ogystal, mae yna gamerau cylch gyfyng, tu allan yr adeilad yn unig, sydd ond yn weithredol pan fo'r adeilad yn wag.

Mae'r llety Apollo a'r ystafell Mercury ar lawr isa'r adeilad, ac wedi eu llorio efo llawr laminate sydd wedi eu llathru. Mae gan yr ystafell Mercury ffenestr sy'n caniatau dianc a larwm fwg gysylltiedig tu allan i'r drws. Mae gan y llety Apollo larwm fwg gysylltiedig hefyd,  a ffenest yn yr ystafell wely a drws patio yn y lolfa, sy'n caniatau dianc. Ceir torts ar gyfer argyfwng yn yr ystafell Mercury ac yn y llety Apollo. Os oes angen cymorth arnoch yn ystod eich arhosiad, gallwch gael gafael arnom drwy ganu cloch y drws neu drwy alw ein rhifau symudol.


Tu allan
Mae ganddoch y rhyddid i grwydro ac ymlacio yn ein coetir, ein caeau a ger y llyn, ond, os gwelwch yn dda, peidiwch a dringo'r coed a dros y gatiau a'r ffensus. Cadwch y gatiau ar gau. Cymerwch ofal wrth ddefnyddio camfeydd. Ar adegau, gall y llwybrau fod yn anwastad, mwdlyd neu lithrig felly gwisgwch esgidiau addas. Peidiwch a thanio tannau neu farbeciws, neu gasglu neu dorri coed. Peidiwch a tharfu ar anifeiliaid gwyllt neu dda byw y ddiangen. Mae yna gychod gwenyn ar gyrion y caeau. Os oes ganddoch adwaith ddifrifol i bigiadau (anaphalaxis) byddai'n well i chi beidio a chrwydro drwy'r caeau. Cymerwch ofal cyn agosau at y cychod gwenyn, oherwydd gall y gwenyn bigo. Codir arwyddion rhybudd ychwanegol a dros dro  pan fo'r cychod gwenyn yn cael eu hagor ac mae'r risg o gael eich pigo yn uwch. Gall rhai planhigion fel danadl poethion achosi llid neu alergedd. Mae yna ddwr dwfn yn y llyn. Nid yw'n addas ar gyfer nofio neu badlo.

Gwybodaeth ychwanegol:
Mae yna fynediad da i rwydweithiau ffonau symudol a wifi am ddim yn y ty. Gellir storio beiciau o dan gysgod yn ystod eich arhosiad, ar eich risg eich hun. 
Mae gan ei cath, Twmff, a'n deargi Swydd Efrog, ryddid i grwydro y tu allan, rhwng amseroedd gadael a chyrraedd. Yn ystod yr amseroedd yma sicrhewch nad ydynt yn cael mynediad i'ch hystafell drwy gadw drysau a ffenestri ar gau.








Share by: